From Byw Nawr to a Compassionate Cymru
Byw Nawr was established in 2014 with the main purpose of generating a national conversation about how we can live well, yet make preparations in advance for the end of life. The initiative led by the late Dr Hywel Francis, ex MP for Aberavon, has achieved much over the last six years. This has included but is not limited to the following achievements:
- Establishing Dying Matters week in Wales as a way of initiating conversation around death & dying;
- Supporting the Advance Future Care Planning work
- Raising awareness of the importance of planning early for dying and the need to share thoughts and feelings with friends and family;
- Enabling conversations around end of life to take place through the development of the small grants fund;
- Establishing a Byw Nawr twitter account
Whilst this work remains more important than ever, given the current Covid -19 epidemic, it is now being taken forward by the Advance Future Care Planning (AFCP) Group led by Dr Mark Taubert, palliative care consultant and senior lecturer. Since the establishment of the AFCP group, the work of the Byw Nawr steering group has focused primarily on the compassionate communities approach and making Wales a compassionate nation. With the Welsh Government’s public commitment to make Wales a compassionate nation at the NHS 70th Anniversary celebrations and the subsequent publication of the Compassionate Cymru Charter, the Byw Nawr initiative has come to a natural conclusion. As such, since the 13 March 2020, the Byw Nawr Steering Group has formally transitioned into the Compassionate Cymru Steering Group and will be taken forward under the leadership of Lesley Bethell, Bevan Advocate and public member of the end of life care board.
Compassionate Cymru
A Compassionate Community recognises that there are limits to direct service provision (irrespective of the prevailing economic climate of affluence or austerity) and that a citizenship model of health promotion means that health is everyone’s responsibility. Health and health care, and compassion and compassionate care, is more than the provision of health and social care services. Due to its size and structures, Wales has the potential to extend this approach to one of a compassionate country. This means that public authorities – as national and regional leaders - can provide leadership in encouraging and supporting changes to workplaces, trade unions, schools and higher education institutions, social media and social and cultural organisations by creating internal policies about these experiences to support their workers, students, parents, teachers, managers, visitors, readers and observers.
At the 70th anniversary of the NHS in July 2018, the Welsh Government’s Minister for Health and Social Services set out his aspirations for Wales to become the world’s first ‘compassionate country’. Since then work has been ongoing to spread the compassionate approach throughout Wales. This has led to the production of a Compassionate Cymru Charter (Please see above/below). The Charter provides the framework within which our compassionate nation approach is being developed and delivered in Wales and outlines a programme of social and practical actions across a range of domains and ministerial portfolios.
However, Making Wales a compassionate country is much more than implementing a Charter. It’s about embedding a compassionate approach in all our work places, our schools, our places of worship, our prisons and supporting our communities to become more resilient to be able to cope with the challenges that life brings. Progress to date includes:
- Working with Compassionate Communities UK to provide primary care clusters in Wales with the tools they need to roll out for their population a compassionate community approach to end of life care;
- Using transformation monies to enhance the well-being resource in a number of primary care clusters (through social prescribing) to connect people to community well-being opportunities. Examples include health connection groups such as talking cafes and self-management programmes.
- Embedding the compassionate country approach within the Welsh Government’s loneliness and isolation strategy ‘Connected Communities’.
- Strengthening our bereavement response to Covid-19 through funding additional bereavement support from Cruse Bereavement Services and hospices across Wales
- Working with MacMillan Cancer Services to recruit three compassionate community development posts across Wales
- Working with Age Cymru to support the Friend in Need service which provides free telephone friendship calls for people in Wales who are 70 or over, and information and support for ‘Friends’ already supporting or wanting to help people they know in their local community.
- Working with Community Choice and Inclusion, Pembrokeshire to facilitate the development of health connecting projects (Talking Cafes, Human Libraries, Mens’ Health initiatives).
Y fenter Byw Nawr yn dod i ben
Cafodd y fenter Byw Nawr ei sefydlu yn 2014. Ei phrif nod oedd hyrwyddo sgwrs genedlaethol ynglŷn â sut y gallwn fyw yn dda, ac ar yr un pryd paratoi ymlaen llaw ar gyfer diwedd oes. Mae’r fenter, o dan arweinyddiaeth Dr Hywel Francis, cyn Aelod Seneddol Aberafan, wedi cyflawni llawer dros y chwe blynedd diwethaf, ac ymhlith ei llwyddiannau, mae wedi gwneud y canlynol:
• Cefnogi gwaith Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw;
• Sefydlu wythnos Byw Nawr yng Nghymru fel ffordd o gychwyn sgwrs ynglŷn â
marwolaeth a marw;
• Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw mewn perthynas â
marwolaeth a’r angen i bob un ohonom sicrhau bod ffrindiau a theulu yn deall
ein bwriad a’n deimladau;
• Sicrhau bod sgyrsiau ynglŷn â diwedd oes yn gallu digwydd drwy ddatblygu
cronfa grantiau bach;
• Creu cyfrif ‘Twitter’ Byw Nawr.
Er bod y gwaith hwn yn bwysicach nag erioed o’r blaen oherwydd y pandemig COVID-19 presennol, y Grŵp Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw, o dan arweinyddiaeth Dr Mark Taubert, uwch-ddarlithydd ac ymgynghorydd gofal lliniarol, fydd yn gyfrifol amdano bellach. Ers sefydlu’r grŵp hwn, mae gwaith grŵp llywio Byw Nawr wedi canolbwyntio’n bennaf ar greu cymunedau caredig a gwneud Cymru yn genedl garedig. Ers i Lywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cyhoeddus i wneud Cymru yn genedl garedig yn ystod dathliadau pen-blwydd 70 oed y GIG, gan gyhoeddi Siarter Cymru Garedig wedyn, mae menter Byw Nawr wedi dod i ddiwedd naturiol. Felly, ers 13 Mawrth 2020, mae Grŵp Llywio Byw Nawr wedi newid yn ffurfiol i fod yn Grŵp Llywio Cymru Garedig, a bydd yn symud ymlaen â’i waith o dan arweinyddiaeth Lesley Bethell, Eiriolwr Bevan ac aelod cyhoeddus o’r bwrdd gofal diwedd oes.
Cymru Garedig
Mae Cymuned Garedig yn cydnabod bod y gallu i ddarparu gwasanaethau uniongyrchol yn gyfyngedig (waeth beth yw’r hinsawdd economaidd sy’n bodoli ar y pryd, o ran cyfoeth neu gyni), a bod gweithredu model dinasyddiaeth i hyrwyddo iechyd yn golygu bod iechyd yn gyfrifoldeb sydd ar bob un ohonom. Mae iechyd a gofal iechyd, a charedigrwydd a gofal tosturiol, yn golygu bod angen mwy na darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Oherwydd maint Cymru a’i strwythurau, mae potensial yma inni ymestyn y dull gweithredu hwn i gwmpasu Cymru gyfan a’i gwneud yn wlad garedig yn ei chyfanrwydd. Mae hynny’n golygu bod awdurdodau cyhoeddus – fel arweinwyr rhanbarthol a chenedlaethol – mewn sefyllfa i roi arweinyddiaeth mewn materion sy’n ymwneud ag annog a chefnogi newidiadau yn y gweithle, ac mewn undebau llafur, ysgolion, sefydliadau addysg uwch, y cyfryngau cymdeithasol, a sefydliadau cymdeithasol a diwylliannol, drwy greu polisïau mewnol, mewn perthynas â’r profiadau hyn, i gefnogi eu gweithwyr, myfyrwyr, rhieni, athrawon, rheolwyr, ymwelwyr, darllenwyr a sylwedyddion.
Wrth i’r GIG ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed fis Gorffennaf 2018, manteisiodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar y cyfle i ddisgrifio ei ddyheadau i weld Cymru yn dod yn ‘wlad garedig’ gyntaf yn y byd. Ers hynny, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ledaenu’r dull gweithredu caredig a thosturiol ar hyd a lled Cymru, ac mae’r gwaith hwnnw wedi arwain at gynhyrchu Siarter Cymru Garedig (gweler uchod/isod). Mae’r Siarter hon yn darparu fframwaith i ddatblygu a gweithredu dull ar gyfer creu cenedl garedig yng Nghymru, gan amlinellu rhaglen o gamau cymdeithasol ac ymarferol i’w cymryd ar draws amrywiaeth o feysydd a phortffolios gweinidogol.
Fodd bynnag, mae gwneud Cymru yn wlad garedig yn golygu gwneud llawer mwy na gweithredu Siarter. Rhaid sicrhau bod ein dull gweithredu caredig yn ymwreiddio ym mhob gweithle, ysgol, man addoli, a charchar, ac mae’n hanfodol cryfhau ein cymunedau er mwyn iddynt allu ymdopi â’r heriau a wynebir fel rhan o fywyd. Mae’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn cynnwys:
• Gweithio gyda Compassionate Communities UK er mwyn sicrhau bod gan glystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru yr adnoddau y mae eu hangen i weithredu dull cymuned garedig ar gyfer darparu gofal diwedd oes i’w poblogaeth;
• Defnyddio cyllid trawsnewid i wella’r adnoddau llesiant mewn nifer o glystyrau gofal sylfaenol (drwy bresgripsiynau cymdeithasol) i gysylltu pobl â chyfleoedd llesiant yn y gymuned. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys grwpiau cyswllt sy’n ymwneud ag iechyd, megis caffis siarad a rhaglenni hunanreoli;
• Ymgorffori’r dull gweithredu gwlad garedig o fewn strategaeth ‘Cymunedau Cysylltiedig’, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd;
• Cryfhau ein hymateb ynglŷn â phrofedigaeth mewn perthynas â COVID-19 drwy ariannu cymorth profedigaeth ychwanegol a ddarperir gan Wasanaethau Profedigaeth Cruse a hosbisau ledled Cymru;
• Gweithio gyda Gwasanaethau Canser MacMillan i recriwtio pobl ar gyfer tair swydd i ddatblygu cymunedau caredig ar draws Cymru;
• Gweithio gydag Age Cymru i gefnogi’r gwasanaeth angen cyfaill, Friend in Need, sy’n darparu gwasanaeth galwadau ffôn i gynnig cyfeillgarwch i bobl 70 oed ac yn hŷn yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth a chymorth i gyfeillion sydd eisoes yn darparu cefnogaeth neu sy’n awyddus i helpu pobl y maent yn eu hadnabod yn eu cymuned leol;
• Gweithio gyda Community Choice and Inclusion, Sir Benfro, i helpu i ddatblygu prosiectau cyswllt sy’n ymwneud ag iechyd (Caffis Siarad, Llyfrgelloedd Pobl (Hunan Libraries), a mentrau Iechyd Dynion).
Download the Compassionate Cymru charter (pdf)

.jpg)
Mae Compassionate Cymru hefyd ar Twitter @BywNawr .
Compassionate Cymru is also on Twitter @BywNawr.